OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 380 (Cy. 45) (C. 15)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 75(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”). Hwn yw'r gorchymyn cychwyn cyntaf i'w wneud o dan y Ddeddf.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai 1 Ebrill 2014 yw'r diwrnod penodedig i adran 63 o'r Ddeddf ddod i rym.
Mae adran 63 yn diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”) drwy fewnosod adran 143A newydd. Mae adran 143A yn rhoi pwerau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”) mewn perthynas â chyflogau penaethiaid gwasanaeth cyflogedig mewn cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau tân ac achub (a ddiffinnir yn adran 143A fel “awdurdodau perthnasol cymwys”). O dan adran 143A, gall y Panel wneud argymhellion i awdurdod perthnasol cymwys ynghylch unrhyw bolisi yn natganiad yr awdurdod ar bolisïau tâl sy'n ymwneud â chyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod, ac unrhyw newid yng nghyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod. Pan fo awdurdod perthnasol cymwys yn cynnig newid cyflog pennaeth ei wasanaeth cyflogedig mewn modd nad yw'n gymesur â newid i gyflogau staff arall yr awdurdod, rhaid i'r awdurdod hwnnw ymgynghori â'r Panel ynghylch y newidiadau arfaethedig cyn gwneud y newid. Mae'n ofynnol i'r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 143A.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 380 (Cy. 45) (C. 15)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2014
Gwnaed 20 Chwefror 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 75(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013([1]).
Enwi a dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2014.
Diwrnod Penodedig
2. Y diwrnod penodedig i adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 ddod i rym yw 1 Ebrill 2014.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2014